Peter Lord yn dyfynnu Jonah Jones mewn cyfweliad gyda Shelagh Hourahane

31 Gorffenaf 2021

Cyhoeddwyd cyfweliad gan Shelagh Hourahane gyda Peter Lord, yr artist a hanesydd diwylliannol, yn rhifyn Gwanwyn 2021 O’r Pedwar Gwynt. Mae’r sgwrs yn trafod gwaith diwyd Lord i ddatgelu bodolaeth traddodiad celfyddydau gweledol yng Nghymru a wadwyd am flynyddoedd hir. Yn ei thro hithau ysgrifennodd Hourahane erthygl gwych am waith Jonah, ‘Carving Our Inheritance’, yn rhifyn mis Awst/Medi 1987 o gylchgrawn Planet.

Wrth drafod y gwrthwynebiad gan lawer ym myd y celfyddydau yng Nghymru i’w ddamcaniaethau, mae Lord yn crybwyll dwy enghraifft, gyda Jonah yn un ohonynt: “…cofiaf Jonah Jones, Cadeirydd Pwyllgor Celf Cyngor y Celfyddydau [Cymru], yn agor trafodaeth am bapur roeddwn i wedi’i gyflwyno iddynt (‘Polisi Diwylliannol’) â’r geiriau, ‘We fought wars to stop this kind of thing.’” Cred Scene & Word Cyf bod angen rhoi rhywfaint o gyd-destun i’r arsylwad yma.

Nid oes cofnod penodol yn nyddiaduron Jonah o’r digwyddiad hwn, ond mae’n rhaid ei fod wedi digwydd ym 1986, pan oedd yn gadeirydd Pwyllgor Celf CCC. Sut bynnag, mae’r myfyrdodau a ysgrifennodd ar 23 Rhagfyr cyn mynychu cyfarfod ym mis Ionawr yn ddadlennol. Roedd e’n derbyn bod rhaid i’r CCC weithredu polisi cyllidol er mwyn asesu safon gwaith, rhannu grantiau ac yn y blaen, ond cyfaddefodd ei fod yn “puzzled about the term ‘cultural policy’[…] culture, surely, is not ordained by policy – in essence ‘cultural policy’ is for me an oxymoron. Culture is natural, wild growth, so ‘policy’ is inimical to it. Policy is ‘the settled method of conducting affairs…’ to which, surely, ‘culture’ is inimical. For this reason alone, I’d be glad not to chair such a meeting!”

Bu Jonah yn ddelfrydwr gydol ei oes, gan gredu mewn ffurf ryddfrydol ar sosialaeth a rhyng-wladoliaeth. Credai yn ddwfn hefyd ym mhwysigrwydd rhyddid, rhywbeth a welai’n anhepgor i’r celfyddydau creadigol ac fel y gwrthwyneb i’r totalitariaeth greulon yr oedd wedi’i gweld yn Ewrop. Yn nwfn ei galon roedd e’n unigolydd, un oedd yn amheus o ddaliadau ar sail ffiniau pleidiol yn unig. Yn y goleuni hwn y dylem ddehongli ei amheuaeth o gysyniad fel “polisi diwylliannol”.

Gyda’i gredoau a’i gefndir (daeth Jonah i Gymru o Swydd Durham), mae’n hawdd deall ei ofnau am dwf cenedlaetholdeb Cymreig o’r 1960au ymlaen. Fel y cofia ei ferch Naomi, roedd gan yr union air “cenedlaetholdeb” “arwyddocâd peryglus ac anfad” i Jonah ar ôl yr hyn a welodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn ddiweddarach, ar ôl dod i adnabod ei AS Plaid Cymru lleol, Dafydd Elis-Thomas, a thrafod â chyfeillion eraill ac aelodau o’i deulu a oedd yn genedlaetholwyr Cymreig, daeth i weld bod y mudiad yng Nghymru yn gwbl groes i ffasgaeth a senoffobia; sylweddolodd bod dathlu gwahaniaethau mewn gwirionedd i’r gwrthwyneb i’r hyn yr oedd yn ei ffieiddio a’i ofni cymaint.

Mae’n wir bod Jonah, fel llawer o bobl eraill, wedi mynegi’r safbwynt nad oedd fawr o draddodiad y celfyddydau gweledol yng Nghymru. Mewn sgwrs radio ym 1961 a gyhoeddwyd yn hwyrach y flwyddyn honno yng nghylchgrawn Taliesin, ac a gafodd ei ailargraffu gyda’r teitl ‘Not Built But Truly Born’ yn The Gallipoli Diary (1989), dadleuodd: “Recently I was asked if there was evidence of a renaissance in the visual arts in Wales. The answer is No[…] The Welsh, if they are not iconoclasts, certainly have not been the most active of image-makers, and one cannot therefore talk of the renaissance of what has never really existed.” Yn y bôn, credai mai’r rheswm am hyn oedd safle ymylol Cymru mewn perthynas ag Ewrop, ei phellter o berfeddwlad Môr y Canoldir. Safbwynt digon confensiynol oedd hwn ar y pryd, yn seiliedig ar y cysyniad o “ganon” o gelfyddyd bwysig o brif ddiwylliannau Ewrop, gan anwybyddu celfyddyd y gwledydd llai, mwy “ymylol”. Pe bai Jonah wedi byw yn hwyrach na 2004, gellid dychmygu y buasai wedi dirnad canfyddiadau Peter Lord, gan werthfawrogi y tradoddiad portreadu yng Nghymru sy’n ymestyn yn ôl rhyw bedair ganrif.

Yn sicr ni ellir gwadu bod Jonah wedi dangos dealltwriaeth mor gynnar â 1973 bod Cymru yn endid ar wahân a bod y gwahaniaeth hwn yn bwysig ac yn werthfawr. Deallai hefyd y buasai’r celfyddydau yn chwarae rhan allweddol wrth fynnu hynodrwydd y wlad. Dadleuodd mewn traethawd a gyhoeddwyd yn Artists in Wales 2 (golygydd Meic Stephens), ac a gafodd ei ailgyhoeddi gyda’r teitl ‘Gwynedd Freeman’ yn The Gallipoli Diary, bod “rhyng-wladoliaeth” (yr hyn a elwir “globaleiddio” y dyddiau hyn) “[had] flushed life out of too many communities at this late 20th century stage”. “Against its momentum, individual communities suddenly realise that they are being swept aside, and history has shown what sacrifice they will make, what creative surges they will activate to reassert that identity. There are signs that Wales is facing the issue right now.” I gloi mynegodd: “I believe that the role of the arts in their widest sense will be a major factor in reviving or sustaining what is, after all, a distinctive community.”

Rhoddodd Jonah ymgorfforiad diriaethol i’r geiriau yma mewn llawer o’i waith, yn enwedig yn ei gerfluniau yn seiliedig ar y Mabinogi a themau cysylltiedig yn deillio o hanes Cymru. Yn ei thraethawd ‘Carving Our Inheritance’, sylwodd Shelagh Hourahane am Y Tywysogion (1968): “It is not surprising that during the 1960s an artist of Jonah Jones’s sensibility and concern for Wales would be influenced by the political atmosphere in which he lived. He acknowledged the growth of his own sense of Welsh identity in the sculpture that he made in 1968 for Aberffraw. It was fitting, he explains, that in the year of the Investiture of Charles as Prince of Wales an artist should make an alternative reference to the native mediaeval princes who had created and sustained Welsh identity at their court at Aberffraw […]”

Wedi ennill bywoliaeth o’r celfyddydau yng Nghymru o 1952 ymlaen, teimlai Jonah orfodaeth arno i roi rhywbeth yn ôl trwy wasanaethu ar gyrff cyhoeddus fel CCC, a hynny a wnaeth am nifer o flynyddoedd. Er hynny nid oedd e’n gysurus mewn pwyllgorau, ac roedd y teithio dibaid o’r Gogledd i’r De, y colli amser gweithio ac incwm, y cecru personol a’r biwrocratiaeth yn flinderus iddo. Hwyrach y gellid beio ei ymateb anghymedrol i bapur polisi Peter Lord ar yr anniddigrwydd a ddeilliodd o hyn. Serch hynny, ni ddylai hyn guddio’r ffaith bod Jonah wedi uniaethu yn llwyr â Chymru, a’i fod wedi cyfrannu cymaint iddi mewn llawer modd.