‘Dear Mona’ y cyntaf o ‘lyfrau nodedig o 2019’ ar wefan Book Oxygen

10 Rhagfyr 2019

Mae Book Oxygen, gwefan gyda chenhadaeth i ddarparu ‘gofod anadlu i lyfrau ac ysgrifenwyr’, wedi enwebu Dear Mona: Letters from a Conscientious Objector fel y cyntaf o’i detholiad o lyfrau nodedig am 2019.
Mae adolygiad Lesley Glaister yn gorffen trwy ddweud ei bod yn teimlo’n ‘privileged to have had access to this collection, which provides both a fascinating and revealing piece of history and a moving human story.’
Gellir darllen ei hadolygiad yn y ddolen hon: http://bookoxygen.com/?p=8083