Achub mosaig a ffenestri Jonah Jones ym Morfa Nefyn

27 Chwefror 2019

Cynhwysai Eglwys Gatholig Atgyfodiad Ein Prynwr, a gaewyd yn 2016, 12 ffenestr dalle de verre gan Jonah Jones ac un o’i fosaigau gorau, yn darlunio Crist y Prynwr Sanctaidd.

Mae Esgobaeth Wrecsam yn haeddu canmoliaeth am ei thriniaeth goleuedig o’r darnau anhepgor yma. Goddefodd rai perchnogion cyhoeddus eraill i waith gan Jonah Jones a gomisiynwyd yn y 1960au a’r 1970au gael ei ddinistrio ond ychydig o ddegawdau yn hwyrach wrth i eiddo gael ei adnewyddu neu ei ddymchwel. Yn wahanol i hyn, penderfynodd yr Esgobaeth, gyda chyngor David Hughes dros Lawray Architects, Wrecsam, gyflogi arbennigwyr i symud y ffenestri a’r mosaig o’r eglwys, a wedyn eu hadnewyddu a’u hail-leoli rhywle arall yn yr Esgobaeth.

Adeg paratoi’r adroddiad hwn, roedd Rieveley Ceramics, Waunfawr ger Caernarfon, wrthi’n symud y mosaig o’r eglwys, fel y dangosodd y ffotograffau yma y bu Rieveley mor garedig â rhannu gyda ni:

 

MN mosaic_2

MN mosaic_3

MN mosaic_1

Gofynnodd yr Esgobaeth i Scene & Word ddelio â’r ffenestri oherwydd profiad arbennig Alun Adams, un o gyfarwyddwyr S&W a chyn-gysylltwr Canolfan Gwydr Pensaerniol (CGP) yng Ngholeg Celf Abertawe. Ar ôl iddo arolygu a chloriannu’r eglwys a’r ffenestri a pharatoi cynllun gwaith, trefnodd Alun i’r gwaith gael ei isgontracto i tîm o’r CGP dan reolaeth Owen Luetchford, gyda chymorth Stacey Poultney.

Tynnwyd allan dau o’r ffenestri yn gynnar ym mis Ionawr er mwyn eu benthyg i Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog, am saith wythnos yn ystod yr arddangosfa ganmlwyddol yno. Dewisodd yr Oriel un ohonynt fel canolbwynt i’r sioe. Cafodd y deg ffenestr oedd ar ôl eu symud gan tîm y CGP ym mis Mawrth. Mae’r deuddeg ffenestr nawr yn ddiogel mewn stordy, ac yn aros gwaith adfer ar gyfer eu hail-leoli mewn safle newydd yng ngogledd-dwyrain Cymru: gweler ffotograff y CGP isod. Cwblhawyd symud y mosaig yn ddiogel hefyd gan Rieveley Ceramics. Bydd hwn yn ei dro yn cael ei ail-leoli yng ngogledd-dwyrain Cymru.

Jonah Jones windows in storage