Argraffiad newydd clawr meddal o “The Gregynog Journals” gan Jonah Jones

3 Ionawr 2019

Mae Scene & Word wedi cyhoeddi argraffiad clawr meddal o The Gregynog Journals.

Cafodd y llyfr ei gyhoeddi yn gyntaf mewn ffurf clawr caled yn 2010, mewn argraffiad cyfyngedig o 350. Argraffwyd y fersiwn hwn mewn lliw cyflawn ar bapur di-asid, wedi’i wneud mewn mowld, ond gwewyd blociau’r llyfr a’u clymu trwy law yn unigol wrth i bob archeb ddod i mewn.

Gyda rhywfaint o flociau’r llyfr heb eu clymu, heb eu gwerthu ac mewn stoc, penderfynodd bwrdd cyfarwyddwyr y cwmni i’w rhoi mewn ffurf clawr meddal a’u cynnig am bris llawer is na’r fersiwn gwreiddiol.

Mae’r argraffiad clawr meddal ar gael am £20 a fe’i lansiwyd ar achlysur agor arddangosfa ganmlwyddol Jonah Jones yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw ar 26 Ionawr 2019.