Agoriad arddangosfa ganmlyddol yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw

30 Ionawr 2019

Mynychodd oddeutu 200 o westeion agoriad yr arddangosfa yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog, Pwllheli ar 26 Ionawr. Roedd llawer ohonynt wedi teithio cryn belter er mwyn bod yn bresennol. Ar ôl cyflwyniad gan Gwyn Jones, cyfarwyddwr yr oriel, agorwyd yr arddangosfa gan David Townsend Jones, a siaradodd ar ran teulu Jonah a Scene & Word Cyf. Datganodd cyhoeddi argraffiad clawr meddal o’r llyfr The Gregynog Journals. Cliciwch yma am ei anerchiad cyfan.

Cynhwysodd yr araith yr uchafbwyntiau a ganlyn:

  • Clod am gywreindeb, gwaith caled ac ymroddedigaeth y staff ym Mhlas Glyn-y-Weddw. Cyflwynodd David The Gregynog Journals fel rhodd i Gwyn Jones (cyfarwyddwr), Iwan Hughes (curadur amgueddfa) a Nia Roberts (curadur celf cyfoes).
  • Gwerthfawrogiad i’r llu rhyfeddol o artistiaid talentog a ddaethpwyd at eu gilydd gan yr oriel er mwyn elfen Cyswllt yr arddangosfa. I raddau roedd hyn yn cynnwys artistiaid gyda chysylltiadau personol a phroffesiynol â Jonah: Meic Watts, Howard Bowcott, Claire Langdown, David Nash a Sarina de Majo. Hefyd cynhwysodd artistiaid eraill – Vivienne Rickman Poole, Aled Prichard-Jones, Richard Higlett, Simon Callery, Menna Angharad, Chris Bird-Jones, Rob Piercy, Janet Smith, Rachel Stewart a Bill Swann – a dywedodd David bod ganddynt “rhyw gysylltiad hanesyddol neu thematig â Jonah …” a bod pob un “wedi darganfod modd i fynegi, trwy eu delweddau, eu cariad at y rhan yma o Gymru”.
  • Diolch i’r sawl a ddarparodd sgiliau cadwrol ac atgyweiriol a gwaith caled er mwyn troi darnau a oedd wedi’u niweidio neu wedi dirywio at safon arddangosfa: Mark Sawyer ar gampws Llanbedr Pont Steffan, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (dau gerflun: Bethel I (Jacob ym Mheniel) a Bethel II); ac Owen Luetchford a Stacey Poultney o Ganolfan Gwydr Pensaerniol, Coleg Celf Abertawe (ffenestr dalle de verre o’r hen eglwys Gatholig ym Morfa Nefyn, a fenthyciwyd trwy garedigrwydd Esgobaeth Gatholig Wrecsam).
  • Diolch i’r llu o gasglwyr, boed preifat neu gyhoeddus, a fenthycodd gweithiau i’r arddangosfa.
  • Teyrnged arbennig i Bortmeirion am fod mor hael â noddi catalog yr arddangosfa, gan ddarparu digon o arian i alluogi cyhoeddiad cyfrol parhaus o’r safon uchaf mewn cynllun ac argraffu.
  • Datganiad am benderfyniad ymddiriedolwyr Esgobaeth Wrecsam i symud yr holl ffenestri a’r mosaig o’r hen eglwys ym Morfa Nefyn gyda chymorth arbennigwyr a’u hail-leoli yn y pendraw mewn adeiladau eraill yn yr esgobaeth. Bydd hwn yn ffurfio darn o stori gwahanol, neu gyfres o straeon, pan ddaw rhagor o fanylion i’r golwg.

Wedi’r agoriad, rhoddodd Pedr Jones ddarlith gyda darluniau am fywyd a gyrfa Jonah Jones. Ar ôl hyn cafwyd trafodaeth grwp dwyieithog o dan arweinyddiaeth Gwyn Jones am gofiannau personol o Jonah, yn cynnwys Robin Llywelyn, rheolwr cyfarwyddwr Portmeirion; David Sherlock, cadeirydd GTA Lloegr, a wasanaethodd fel dirprwy cyfarwyddwr i Jonah yng Ngholeg Cenedlaethol Celf a Dyluniad yn Nulyn ym 1974–78; a cherflunydd Meic Watts, a oedd yn rhannu gweithdy gyda Jonah yn y 1980au hwyr. Mynychwyd y ddau ddigwyddiad gan gynulleidfa o ryw gant o bobl.

Bydd yr arddangosfa yn parhau am chwe wythnos tan 17 Mawrth, gyda rhaglen o ddigwyddiadau cysylltiedig yn cynnwys rhai o’r artistiaid yn arddangosfa Cyswllt:

  • Gweithdai galw heibio i deuluoedd a redir gan Richard Higlett, a ysbrydolwyd gan waith calligraffig Jonah
  • Gweithdy caligraffeg gyda Janet Smith
  • Trip i Portmeirion am daith gerdded gyda Rob Piercy fel arweinydd

Am fanylion pellach am yr arddangosfa a’r gweithgareddau amrywiol, ewch i www.oriel.org.uk

exhibition_1 exhibition_2 PGyW criw

Ffotograffau: Oriel Plas Glyn-y-Weddw