Cofio Jonah Jones

Ffotograffiau: Oriel Plas Glyn-y-Weddw.

Mae Scene & Word yn gwmni di-elw gydag amcanion elusennol, a sefydlwyd yn 2006 gan deulu a chyfeillion Jonah Jones (1919–2004) i ddatblygu a rheoli Cofio Jonah Jones, prosiect i ddathlu a chofnodi ei fywyd a gyrfa gan adeiladu ar ei werthoedd fel artist ac addysgwr.

Ein prif amcanion yw achub gweithiau celf cyhoeddus gan Jonah Jones; curadu oriel ar-lein o’i waith (Oriel Jonah Jones); a chynyddu ymwybyddiaeth o’r artist a’i waith ymhlith y cenedlaethau iau trwy ein cynllun Gwobr Jonah Jones.

Dilynwch Scene & Word ar ein gwefan, Facebook ac Instagram.

Rydym yn ailddatblygu’r wefan hon – yr hyn rydych chi’n ei weld yma yw’r fersiwn diweddaraf o waith ar y gweill. Bydd nodweddion cyfarwydd fel Oriel Jonah Jones a’r Siop Scene & Word yn ôl yn fuan. Gallwch ysgrifennu atom trwy’r ddolen Cysylltu ar waelod y sgrin.