10 Gorffennaf 2023
Mae darnau eraill o waith celf “anghofiedig” gan Jonah wedi dod i’r amlwg ar ôl i’w perchnogion gysylltu â ni trwy ddolen ‘Hysbyswch ni am waith coll’ yn Oriel Jonah Jones.
Tri darn gan Jonah sydd gan y perchennog cyntaf (a ddewisodd aros yn anhysbys). Mae’r cyntaf yn fraslun mewn llechfaen ar gyfer y cerflun Bethel a wnaed ym 1983 ar gyfer Parc Margam (dinistriwyd hwn yn anffodus gan goeden wrth iddi gwympo ym 1988). Yn ail, ceir llechen grwn caboledig gyda thri darn o farmor arni gyda’r arysgrifen “Brevis esse laboro, obscurus fio” – “Po fwyaf a frwydraf i fod yn fyr, po fwyaf âf yn aneglur”, llinell o Ars Poetica Horace. Dyfrlliw gyda’r teitl Ardudwy sy’n dyddio o tua 1988 yw’r trydydd darn, sy’n dangos Bryn Cader Faner, un o hoff bynciau Jonah. Islaw mae arysgrif wedi’i phaentio mewn Cymraeg canoloesol o ail gangen y Mabinogi.
Fe wnaeth Meic Birtwistle ein hysbysu am arysgrif dyfrlliw cain gyda thirlun cefndir o gerdd gan Gwyn Williams, ‘Wild Night at Treweithan’, dyddiedig 1984. Fe’i cyflwynwyd i’r bardd (1904–1990) ar achlysur ei ben-blwydd yn 80 oed gan Yr Academi Gymreig, y gymdeithas ar gyfer llenorion Cymraeg. Gwyn Williams oedd tad-yng-nghyfraith Meic Birtwistle.
Rydym yn ddiolchgar iawn i’r perchnogion am roi ganiatâd i ni gyhoeddi adroddiad am “ail-ddarganfod” y gweithiau, ac i Meic Birtwhistle am ddarparu’r ffotograff uchod o Wild Night at Treweithan.