15 Mai 2023
Mae’r Twentieth Century Society (C20) yn bwriadu ymweld â ffenestri Jonah Jones yn Eglwys Dewi Sant, Yr Wyddgrug, ar daith yng ngogledd-dwyrain Cymru dros yr haf eleni.
Mae C20 yn gorff sy’n ymgyrchu i warchod pensaernïaeth fodern eithriadol a chelf gyhoeddus a wnaed yn yr ugeinfed ganrif. Bydd y daith, gyda’r teitl ‘A North Wales Weekend – Wrexham and Denbighshire’, yn digwydd ar 1–2 Gorffennaf. Mae’r amserlen yn cynnwys safleoedd yn Wrecsam, Llangollen a’r Rhyl cyn ymweld ag Eglwys Dewi Sant. Arweinir y daith gan Andrew Jackson, artist ac awdur ar bensaernïaeth.
Mae’r daith yn agored i unigolion nad ydynt yn aelodau o C20 ar gost o £210; y gost i aelodau yw £180. Gellir archebu ar gyfer y daith ar y ddolen hon: The Twentieth Century Society > Members’ Area > Event Registration (c20society.org.uk) Gellir ymuno â C20 ar y ddolen yma: The Twentieth Century Society > Members’ Area > Join Online (c20society.org.uk)
Cwblhawyd y prosiect i osod y ffenestri yn Eglwys Dewi Sant ym mis Tachwedd 2022. Gellir darllen y stori’n llawn yma. Bydd y ffenestri yn cael eu bendithio gan yr Esgob Peter o Wrecsam ar 4 Mehefin.